SL(6)436 – Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2023

Cefndir a diben

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/77 (Cy. 20)) (“Rheoliadau 2021”), a disgwylir iddynt fod i ddod i rym ar 31 Rhagfyr 2023.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu’r ail gam mewn proses dau gam ar gyfer cyflwyno cyfundrefn rheoli maethynnau uwch ar gyfer blwyddyn galendr 2024, ar gyfer daliadau neu ran o ddaliadau nad oeddent yn flaenorol wedi'u lleoli o fewn Parth Perygl Nitradau (“PPN”) ac sydd wedi'u hau ag o leiaf 80% o laswellt (a ddiffinnir yn y Rheoliadau hyn fel “daliadau glaswelltir cymhwysol”). 

Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 2 (mesurau trosiannol ar gyfer daliadau nad oeddent gynt mewn parth perygl nitradau) o Reoliadau 2021. Mae'n newid y dyddiad gweithredu ar gyfer rheoliad 4 (dodi tail da byw – y terfyn o ran cyfanswm y nitrogen ar gyfer yr holl ddaliad) o 1 Ionawr 2024 i 1 Ionawr 2025 ar gyfer daliadau neu rannau o ddaliadau nad oeddent gynt wedi eu lleoli o fewn PPN fel y’i dangosir ar y map mynegai PPN, pan fo 80% neu fwy o’r ardal amaethyddol wedi ei hau â phorfa (“daliadau glaswelltir cymhwysol”). Mae hyn yn golygu nad yw'r terfyn o ran cyfanswm y nitrogen mewn tail da byw ar gyfer yr holl ddaliad (170kg wedi ei luosi ag arwynebedd y daliad mewn hectarau) yn rheoliad 4 o Reoliadau 2021 yn gymwys i ddaliadau glaswelltir cymhwysol hyd 1 Ionawr 2025.

Mae rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 3 (dehongli) o Reoliadau 2021 drwy fewnosod diffiniadau o'r termau “cynllun rheoli maetholion uwch”, “cyfarpar taenu manwl”, “daliad glaswelltir cymhwysol” a “cyfnod perthnasol”. Mae hefyd yn rhoi diffiniad o “CNC” yn lle “CANC”.

Mae rheoliad 5 yn mewnosod rheoliadau newydd 4A a 4B yn Rheoliadau 2021. Mae rheoliad 4A (dodi tail da byw sy’n pori a da byw nad ydynt yn pori ar ddaliadau glaswelltir cymhwysol yn ystod y cyfnod perthnasol) yn ei gwneud yn ofynnol i feddiannydd daliad glaswelltir cymhwysol sicrhau, ar gyfer blwyddyn galendr 2024 (“y cyfnod perthnasol”), fod arwynebedd y daliad (mewn hectarau) yn fwy na swm neu’n hafal i swm cyfanswm y nitrogen mewn tail da byw sy’n pori a ddodir ar y daliad wedi ei rannu â 250, plws cyfanswm y nitrogen mewn tail da byw nad ydynt yn pori a ddodir ar y daliad wedi ei rannu â 170. Diben y cyfrifiad hwn yw cyfyngu ar gyfanswm y nitrogen mewn tail da byw y caiff meddiannydd glaswelltir cymhwysol ei ddodi ar y daliad, boed yn uniongyrchol gan anifail neu drwy daenu, yn ystod y cyfnod perthnasol. Mae’n sicrhau, pan nad yw meddiannydd daliad glaswelltir cymhwysol ond yn dodi tail da byw sy’n pori ar y daliad, na chaiff ddodi mwy na 250kg o nitrogen mewn tail da byw sy’n pori fesul hectar yn ystod y cyfnod perthnasol. Mae hefyd yn sicrhau, pan nad yw meddiannydd daliad glaswelltir cymhwysol ond yn dodi tail da byw nad ydynt yn pori ar y daliad, na chaiff ddodi mwy na 170kg o nitrogen mewn tail da byw nad ydynt yn pori fesul hectar yn ystod y cyfnod perthnasol. Pan fo meddiannydd daliad glaswelltir cymhwysol yn dodi tail da byw sy’n pori a thail da byw nad ydynt yn pori ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol, mae’r cyfrifiad hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer addasu dodi’r naill a’r llall ar sail pro-rata.

Mae rheoliad 4A(2) yn darparu bod rhaid i feddiannydd daliad glaswelltir cymhwysol, pan fo’n bwriadu dodi ar y daliad, yn ystod y cyfnod perthnasol, gyfanswm o nitrogen mewn tail da byw sy’n pori sy’n fwy na 170kg wedi ei luosi ag arwynebedd y daliad mewn hectarau, gydymffurfio â gofynion uwch ychwanegol o ran rheoli maethynnau a bennir o dan Atodlen 1A (gofynion rheoli maethynnau uwch) a hysbysu Cyfoeth Naturiol Cymru (“CNC”). Mae rheoliad 4B (gofynion hysbysu) yn nodi’r gofynion hysbysu y mae rhaid i feddiannydd daliad glaswelltir cymhwysol gydymffurfio â hwy pan fydd yn hysbysu CNC.

Mae rheoliad 6 yn gwneud mân ddiwygiadau i reoliad 14 (taenu tail organig ger dŵr wyneb, tyllau turio, ffynhonnau neu bydewau) o Reoliadau 2021 i gynorthwyo gydag eglurder.

Mae rheoliad 7 yn rhoi cyfeiriadau at “CNC” yn lle cyfeiriadau at “CANC” ym mha le bynnag y maent yn ymddangos yn y Rheoliadau. Mae hyn o ganlyniad i roi diffiniad o “CNC” yn lle’r diffiniad o “CANC” o dan reoliad 3.

Mae rheoliad 8 yn mewnosod Atodlen newydd 1A (gofynion rheoli maethynnau uwch) yn Rheoliadau 2021 sy'n nodi'r gofynion rheoli maethynnau uwch ychwanegol sydd i'w bodloni gan feddiannydd daliad glaswelltir cymhwysol os yw'r meddiannydd yn bwriadu dodi ar y daliad, yn ystod y cyfnod perthnasol, gyfanswm o nitrogen mewn tail da byw sy’n pori sy’n fwy na 170kg wedi ei luosi ag arwynebedd y daliad mewn hectarau.

Mae rheoliad 9 yn dirymu Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2023, y disgwyliwyd iddynt ddod i rym ar 1 Ionawr 2024.

Bydd y gofynion rheoli maethynnau uwch ychwanegol a nodir yn y Rheoliadau hyn yn gymwys i feddianwyr daliadau glaswelltir cymhwysol, yn ogystal â'r gofynion sydd eisoes yn berthnasol i feddianwyr o'r fath yn rhinwedd Rhannau 2 i 7 o Reoliadau 2021.  Hefyd, bydd unrhyw feddiannydd daliad nad yw'n cydymffurfio â'r gofynion ychwanegol hyn yn ystod blwyddyn galendr 2024 yn euog o drosedd ac yn agored i gollfarn ddiannod, neu, yn dilyn collfarn ar dditiad, i ddirwy, fel y darperir ar ei gyfer o dan Reoliad 46 o Reoliadau 2021.

Y weithdrefn

Negyddol

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Caiff y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Nodwyd tri phwynt i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn cysylltiad â’r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn neu’r drafft

Yn yr Atodlen, yn yr Atodlen 1A newydd, ym mharagraff 1, mae gwahaniaeth rhwng y testun Cymraeg a’r testun Saesneg. Yn y testun Saesneg, cyfeirir at “the occupier of a qualifying grassland holding”, ond ystyr y cyfieithiad yw “the holder of a qualifying grassland holding”. Mewn mannau eraill yn y Rheoliadau presennol ac yn y diwygiadau newydd, defnyddiwyd “meddiannydd” (“occupier”) yn gywir yn y testun Cymraeg, yn hytrach na “deiliad” (“holder”) i gyfieithu “occupier”.

2.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Yn yr Atodlen, yn yr Atodlen 1A newydd, mae strwythur paragraff 10 yn anghywir am fod “10-(1)” ar y dechrau. Mae hyn yn creu disgwyliad yn y darllenydd y bydd is-baragraff (1) yn cael ei ddilyn gan is-baragraff (2). Ond nid oes is-baragraff (2) felly dylid ei strwythuro fel “10”, yn hytrach na “10-(1)”. Ceir enghraifft o ddarpariaeth sydd wedi'i strwythuro'n gywir yn ddiweddarach ym mharagraff 20.

3.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Yn yr Atodlen, yn Atodlen 1A newydd, ym mharagraff 11(2), ceir cyfeiriad a ddisgrifir yn anghywir fel “[p]aragraff (1)(a) neu (b)”. Ond dylid disgrifio'r cyfeiriad yn gywir fel “is-baragraff (1)(a) neu (b)” (gweler y canllawiau perthnasol am gyfeiriadau cyfansawdd yn Drafftio Deddfau i Gymru 6.16). 

Rhinweddau: craffu    

Nodwyd dau bwynt i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn cysylltiad â’r offeryn hwn.

4.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Nodwn y canlynol yn rhan 5 o'r Memorandwm Esboniadol mewn perthynas ag ymgynghori ar y Rheoliadau hyn:    

“26. Cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ffurfiol ar gynigion i gyflwyno cynllun trwyddedu, lle y byddai busnesau fferm yn gweithio yn unol â therfyn blynyddol ar nitrogen mewn tail da byw sy'n pori ar gyfer daliad o 250kg/ha, yn dibynnu ar yr angen ar gnydau ac ystyriaethau cyfreithiol eraill. Parodd yr ymgynghoriad am 12 wythnos, o 25 Tachwedd 2022 i 17 Chwefror 2023. 

27. Ar 10 Hydref 2023 gwnaethom gyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ffurfiol. Mae'r crynodeb hwn, ynghyd â'r ddogfen ymgynghori, ar gael yn: https://llyw.cymru/rheoli-maethynnau-rheolir-defnydd-cynaliadwy-o-dail-da-byw

28. Gan fod y Rheoliadau yn darparu diwygiad ac iddo derfyn amser sy'n debyg i'r cynigion yr ymgynghorwyd arnynt yn flaenorol, ac nad ydynt yn adlewyrchu newid ym mholisi Llywodraeth Cymru, ni chynhaliwyd ymgynghoriad ffurfiol pellach.”

5.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Nodwn y torrwyd y confensiwn 21 diwrnod (h.y. y confensiwn y dylai 21 diwrnod fynd heibio rhwng y dyddiad y gosodir offeryn “gwneud negyddol” gerbron y Senedd a'r dyddiad y daw'r offeryn i rym), a’r esboniad am dorri’r confensiwn a gynigiodd Lesley Griffiths AS, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, mewn llythyr at y Llywydd ar 15 Rhagfyr 2023.

Yn benodol, nodwn yr esboniad a ganlyn:

“Y rheswm dros beidio â chydymffurfio â'r confensiwn 21 diwrnod yn yr achos hwn yw, os na fydd Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2023 yn dod i rym ar neu cyn 31 Rhagfyr 2023, yna bydd Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2023 yn dod i rym ar 1 Ionawr 2024 heb roi'r eglurder, hygyrchedd na'r sicrwydd cyfreithiol mwyaf i ddefnyddwyr terfynol ynghylch dodi cyfuniad o dail da byw sy'n pori a thail da byw nad ydynt yn pori.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â phwyntiau adrodd 1, 2 a 3.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

21 Rhagfyr 2023